ENG

Croeso i

CCYSAGauC

Mae Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Crefydd, Gwerthoedd a Moseseg / Addysg Grefyddol yn aelodau o Gymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC). Pwrpas CCYSAGauC yw darparu fforwm ar gyfer cyfnewid arfer da, a chynrychioli amcanion, gwaith a barn ei haelod-GYSAGau.

Cynhadledd 2024

Mehefin 13 @ Prifysgol Wrexham

Rhaglen gynhyrfus i bawb sydd â diddoreb
yn CGM a’r Cwricwlwm

Prosiectau & Digwyddiadau

Mae gan CCYSAGauC ran mewn llawer o brosiectau sy’n cynorthwyo ac yn hybu crefydd,
gwerthoedd a moseseg / addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yng Nghymru. 

Cyfarfodydd

Mae CCYSAGauC yn cynnal cyfarfodydd bob tymor; mae gan bob CYSAG yr hawl i anfon hyd at bedwar cynrychiolydd.

Cyhoeddiadau

Mae’r adran hon yn darparu mynediad i’r cyhoeddiadau canlynol sy’n berthnasol i crefydd,
gwerthoedd a moseseg / addysg grefyddol yng Nghymru.

Newyddion

Mae’r adran hon yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i crefydd,
gwerthoedd a moseseg /addysg grefyddol yng Nghymru.

Dolenni Defnyddiol

Mae’r adran hon yn darparu dolenni defnyddiol i wefannau a sefydliadau perthnasol sy’n cefnogi crefydd, gwerthoedd a moseseg / addysg grefyddol yng Nghymru.

Ein pwrpas

Sefydlwyd CCYSAGauC yn 1995 i ddarparu fforwm ar gyfer cyfnewid arfer da, a chynrychioli amcanion, gwaith a barn ei haelod-GYSau / GYSAGau. Cyflawnir hyn drwy:

  • i aelod-GYSau / GYSAGau anfon cynrychiolwyr i gyfarfodydd tymhorol CCYSAGauC
  • trefnu mentrau a phrosiectau cenedlaethol perthnasol ym meysydd crefydd,
    gwerthoedd a moseseg / addysg grefyddol ac addoli ar y cyd
  • llefaru ar ran holl GYSau / GYSAGau Cymru drwy ymgysylltu â chyrff ac asiantaethau perthnasol, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • cyfosod dogfennau CYS / CYSAG allweddol perthnasol
  • cynnal cydberthynas weithredol â chyrff cydradd yn Lloegr

Ar y safle hwn, gall CYSau / CYSAGau a’r gymuned ehangach gael at wybodaeth am gyhoeddiadau, prosiectau a digwyddiadau, ac eitemau newyddion CCYSAGauC, a dolenni defnyddiol, yn ogystal â gwybodaeth am gyfarfodydd y Gymdeithas.

Ein Pobl

Yn ganolog i waith CCYSAGauC y mae prif gyfarfodydd tymhorol y Gymdeithas, sy’n cael eu mynychu gan gynrychiolwyr y CYS / CYSAG yng Nghymru. Mae’r cyfarfodydd yn darparu fforwm effeithiol ar gyfer cyflwyno, trafod, ac ymateb i faterion sy’n berthnasol i  crefydd, gwerthoedd a moseseg / addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yng Nghymru. Mae gwaith y Gymdeithas yn cael ei gynorthwyo a’i alluogi, hefyd, gan Bwyllgor Gwaith sy’n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn, fel rheol cyn prif gyfarfodydd y Gymdeithas.

Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC yn cynnwys:

  • Parchg Ddr Tania ap Siôn (Cadeirydd, Wrexham)
  • The Revd Edward J. Evans (Is-Gadeirydd, Pen-y-Bont ar Ogwr)
  • Alice Parry (Ysgrifennydd, Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Libby Jones (Ysgrifennydd Cynorthwyol, Wrecsam)
  • John Mitson (Trysorydd, Powys)
  • Rachel Samuel (Cyn-Gadeirydd diweddaraf, Castell-nedd)
  • Paula Webber (Cyn-Ysgrifennydd diweddaraf a Chynrychiolydd o PYCAG)
  • Vicky Barlow (Sir y Fflint)
  • Cllr Louise Brown (Sir Fynwy)
  • Jennie Downes (Sir Ddinbych)
  • Mathew Maidment (Rhondda Cynon Taf)
  • Marged Williams a Tyler Lorraine Saunders (Bro Morgannwg) 
  • Kathy Riddick (Blaenau Gwent)

Cynrychiolwyr CCYSAGauC ar bwyllgorau eraill:

This website uses cookies to ensure you get the best experience whilst on our website.