Cysylltwch â ni
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.
Mae Cyngor AG Cymru a Lloegr yn trefnu mis o ddathliadau o AG ym Mawrth 2011. Mae CCYSAGauC yn cynorthwyo’r dathlu drwy:
Lansio ‘Dathlu AG’ yng Nghymru
Cafodd lansiad swyddogol ‘Dathlu AG’ yng Nghymru ei gynnal ar 2 Mawrth yn Ysgol Stanwell, Penarth, dan lywyddiaeth CCYSAGauC a ChYSAG Bro Morgannwg. Gan dynnu ynghyd gynrychiolwyr CYSAG’au, llywodraeth leol a chenedlaethol, cymunedau ffydd, PYCAG, MAGC, athrawon, disgyblion, a darparwyr adnoddau, darparodd y lansiad gyfle am gydnabyddiaeth a dathliad cyfunol o bwysigrwydd addysg grefyddol yn ein hysgolion.
Yn ei araith yn y Lansiad, dywedodd yr Archesgob Barry Morgan fod dysgu am grefydd a ffydd yn rhan hanfodol o addysg plentyn, a bod AG yn addysgu’r unigolyn cyflawn, gan ehangu ei orwelion a’i helpu i ddeall y byd y mae’n byw ynddo. Meddai,
“Bydd y genhedlaeth gyfredol o bobl ifanc yn ein hysgolion yn ymdrwytho mewn byd lle mae ffiniau cenedligrwydd a diwylliant yn torri i lawr. Yn sicr mae gennym ddyletswydd i’w paratoi ar gyfer y profiad hwnnw ac ar gyfer meddu ar ddealltwriaeth hyderus o’r rhesymau pam y mae eu cyfaill, cydweithiwr neu gymar yn gosod cymaint o bwyslais ar ei ffydd.”
Cydnabu hefyd y gefnogaeth sylweddol y mae AG fel pwnc yn ei derbyn gan Lywodraeth Cymru.
“Rydym ni yng Nghymru’n ffodus fod gwerth Addysg Grefyddol wedi ei gydnabod a’i gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae AG wedi chwarae ei rhan yn yr adolygiad o gwricwlwm yr ysgolion, ac mae’n cael budd o’r Fframwaith Enghreifftiol ar gyfer Addysg Grefyddol a gafodd ei gyhoeddi yn 2008… Mae gennyf y fath obaith y bydd y digwyddiad hwn, sy’n ymestyn ar draws Cymru, yn goleuo ac yn cyfoethogi’r cwricwlwm y mae ein hathrawon yn ei ddarparu, ac y bydd yn helpu’n hysgolion i ddod yn lleoedd ymchwilio, dyngarwch ac ymdrech cyfrannol, yn hytrach na lleoedd o gyrhaeddiad personol cul.”
Gwnaed yn ogystal ddatganiadau am werth AG mewn ysgolion gan gynrychiolwyr saith ffydd yng Nghymru, gan gynnwys safbwyntiau Iddewiaeth (Abraham Davidson, CYSAG Blaenau Gwent), Hindŵaeth (Dhira Bhakta Dasa, CYSAG Pen-y-bont ar Ogwr), Cristnogaeth (y Parch Roy Watson, CYSAG Blaenau Gwent), Islam (Moawia Bin-Sufyan, CYSAG Bro Morgannwg), Siciaeth (Neeta Singh Baicher, CYSAG Casnewydd), Bwdhaeth (Van Geshe Damco Yonten, Canolfan Bwdhaidd Lam Rim), a Baha’i (Sue Cave, CYSAG Sir Fynwy).
Mawr oedd gwerthfawrogiad pawb a oedd yn bresennol yn y lansiad o berfformiadau gan ddisgyblion o ysgolion lleol, gan gynnwys yr ysgol a oedd yn croesawu’r digwyddiad (Ysgol Stanwell). Yr oedd y perfformiadau’n cynnwys: perfformiadau o gân ‘Dathlu AG’ (ysgolion cynradd Evenlode ac Albert ac Ysgol Stanwell); drama o’r enw ‘Reflections on the Holocaust’ (Ysgol Gyfun Bro Morgannwg); adroddiadau o’r Cwrân (Ysgol St Cyres); côr Emynau Hwyliog (St Cyres); a rap ar gyfer Wythnos y Pasg (Ysgol Stanwell). Yn ychwanegol at hynny, darparodd cwmni India Dance Wales arddangosiad o’u gwaith mewn ysgolion.
Cafodd enillwyr cystadleuaeth ‘Dathlu AG’ Books@Press eu cyhoeddi hefyd, sef Rachel Davey o Ysgol Gynradd Baden Powell a Rachel Speed o Ysgol Gynradd Illtyd Sant. Yn ystod yr egwyl cinio, cafwyd cyfle i edrych ar y cynigion arobryn a hefyd i edrych ar arddangosfa helaeth o adnoddau o safon sydd ar gael i ategu AG yng Nghymru.
Cafodd y digwyddiad cyfan ei ffilmio gan fyfyrwyr astudiaethau cyfryngau, sydd wedi cynhyrchu ffilm uchafbwyntiau golygedig i’w chylchredeg i GYSAG’au ac ar gyfer gwefan CCYSAGauC.
Mae cân ‘Dathlu AG’ (‘Place of Trust’ yw’r fersiwn Saesneg, a’r fersiwn Cymraeg yw ‘Hafan Ffydd’) wedi ei pherfformio ledled Cymru a Lloegr, ac mae’n un o gyfraniadau Cymru at fis ‘Dathlu AG’. Gellir lawrlwytho’r sgôr, y trac cefndir a’r geiriau o dudalen we ‘Dathlu AG’ (neu o’r dudalen hon). Mae’r gân wedi ei chyhoeddi ar ddisg gan gwmni Sain, ac mae’r perfformwyr yn cynnwys y cantorion Cymraeg adnabyddus Dafydd Dafis ac Eleri Fôn, gyda chyfeiliant gan gôr o Ysgol Tryfan, Bangor. Mae’r recordiad proffesiynol o’r gân ar gael fel lawrlwythiad iTunes.
Mae’r lawrlwythiadau canlynol ar gael:
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.