Cysylltwch â ni
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.
17 MAI 2023
Ymgynhoriad Cymwysterau Cymru: Y cynnig llawn o gymwysterau 14-16
Dyddiad cau’r ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar y cynnig llawn o gymwysterau 14-16 yw: Dydd Mercher, 14 Mehefin 2023
Mae CCYSAGauC wedi recordio cyflwyniad fideo byr i egluro pam fod yr ymgynghoriad hwn mor bwysig i CGM ac i gyflwyno’r awgrymiadau sy’n cael eu cynnig. Gobeithiwn y bydd y fideo hwn yn helpu CYSAGau / CYSau i ystyried eu hymatebion eu hunain i’r ymgynghoriad.
Tachwedd 2021
Hawl rhieni i ofyn am gael tynnu eu plant yn ôl o CGM yn y Cwricwlwm i Gymru
Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae dal gan rieni yr hawl i ofyn i’w plentyn gael eu tynnu’n ôl o Addysg Grefyddol (AG).
O fis Medi 2022, ni fydd hawl gan rieni i ofyn am gael tynnu’n ôl o grefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) unrhyw ddysgwr hyd at ac yn cynnwys blwyddyn 6, gan y bydd y Cwricwlwm i Gymru (CiG) yn cael ei roi ar waith gan bob ysgol a lleoliad cynradd i ddysgwyr o 3 i 11 oed o’r dyddiad hwn.
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.