Cysylltwch â ni
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.
Gan weithio’n agos gydag APADGOS, trefnodd CCYSAGauC y gynhadledd ôl-16, Ysbrydoli Addysg Grefyddol: ennyn diddordeb oedolion ifanc yn y 21ain ganrif, a gynhaliwyd mewn mannau cyfarfod yng Ngogledd Cymru a De Cymru ar 4 Hydref, 2008.
Nod y Gynhadledd oedd:
Gafwyd cyflwyniadau gan:
Cymerodd y cynrychiolwyr ran hefyd mewn gweithdai a oedd yn dangos sut i ddarparu AG dda drwy adnoddau penodol a gafodd eu hyrwyddo yn y Gynhadledd, gan gynnwys:
Cyflwynwyd pecynnau adnoddau am ddim i bawb a fu’n bresennol yn y Gynhadledd. Hefyd, cafodd adnoddau eu postio i ysgolion nad oeddynt wedi gallu anfon cynrychiolydd. Mae fersiwn Cymraeg o’r adnodd Ymdrin â’r Ysbrydol, y gellir ei lawrlwytho’n ddi-dâl, wedi ei ddarparu yn y ‘blwch lawrlwythiadau’.
DALIER SYLW mewn perthynas â’r adnodd lawrlwytho Ymdrin â’r Ysbrydol:
Mae ‘Dare to Engage’ yn fenter sy’n hybu AG a dysgu ysbrydol mewn ysgolion 16–19 a cholegau drwy gyfrwng cynadleddau diwrnod ac amryw o ddulliau eraill. Am ragor o fanylion, gweler www.dare2engage.org
Mae’r ffolder Ymdrin â’r Ysbrydol yn cael ei chyhoeddi gan ‘RE Today’, ac mae hawlfraint arni. Defnyddiwyd trwy ganiatâd, 2010. I brynu Spiritual Engagement (sef, copi Saesneg). Am ddim: Fersiwn Cymraeg Ymdrin â’r Ysbrydol
Mae CCYSAGauC yn ddiolchgar am y cymorth a roddwyd gan MAGC ac elusennau tuag at gyfieithu Ymdrin â’r Ysbrydol i’r Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y deunyddiau plîs, cysylltwch â ni.
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.