I weld cyhoeddiadau eraill sy’n berthnasol i grefydd, gwerthoedd a moeseg / addysg grefyddol yng Nghymru (e.e. Meysydd Llafur Cytûn, adroddiadau blynyddol CYS) dilynwch y ddolen isod.
Gellir lawrlwytho canllawiau diweddaraf CCYSAGauC ar dynnu disgyblion allan o addoli ar y cyd yma.
Felly rydych yn ymuno â’ch CYSAG lleol: Llawlyfr i Aelodau CYSAG yng Nghymru
Mae’r cyhoeddiad hwn yn egluro rôl CYSAGau a chyfraniad y cymunedau neilltuol ar y pwyllgor.
Sylwer: Mae rhai newidiadau deddfwriaeth pwysig yn digwydd yng Nghymru a bydd y rhain yn cael effaith ar rannau o’r darnau cyfreithiol yn y ddogfen hon. Bydd dogfen ddiwygiedig ar gael maes o law.
Cyngor i ysgolion Cymru ar addoli ar y cyd yn ystod y pandemig COVID-19 (CCYSAGauC, Mai 2020)
Mae’r adnodd yn cynnwys cyngor ar: addoli ar y cyd yn y hinsawdd bresennol; sut i hwyluso gweithredoedd addoli ar y cyd ar gyfer dysgu o bell; ac awgrymiadau am adnoddau. Lawrlwythwch y cyngor yma.
Mae dogfen ganllaw Rheoli’r Hawl i Dynnu Disgyblion yn ôl o Addysg. Grefyddol wedi cael ei chyhoeddi’n ddwyieithog gan Gymdeithas CYSAGauC ac mae ar gael ar ffurf copi caled. Mae copi print ar gael i bob ysgol yng Nghymru. Mae copïau ar gael hefyd i aelodau CYSAG ac i bob Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol yng Nghymru. Mae’r ddogfen o dan hawlfraint ac ar werth ac felly nid oes copi PDF ar gael i’w lawrlwytho na’i ddosbarthu. Mae Gill Vaisey yn rheoli gwerthiant y ddogfen ar ran CCYSGauC ac mae ar gael drwy’r Llyfrau yn adran y Wasg ar y wefan neu gan Amazon am £8.99.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y deunyddiau plîs, cysylltwch â ni.
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.