Cysylltwch â ni
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.
Mae CCYSAGauC yn chwarae rôl weithredol yn y prosiect AtGyfnerthu, sy’n cael ei reoli gan Gyngor AG Cymru a Lloegr. Roedd Grŵp Cyflawni Gweithredol, Grŵp Ymgynghorol a Grŵp Ymgynghorol Cymreig y prosiect i gyd yn cynnwys cynrychiolydd o CCYSAGauC.
Beth yw AtGyfnerthu?
Mae AtGyfnerthu yn brosiect ar gyfer athrawon AG mewn ysgolion uwchradd a gynhelir. Ei bwrpas yw helpu i godi eu hyder wrth iddynt fynd i’r afael â materion cynhennus, yn enwedig pan fydd materion o’r fath yn cael eu defnyddio i gyfiawnhau eithafiaeth dreisgar. Mae AtGyfnerthuyn cael ei reoli gan Gyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr (REC) o dan gytundebau gyda’r DCSF (yn Lloegr) ac APADGOS (yng Nghymru).
Pam AtGyfnerthu?
Mae eithafiaeth grefyddol a mathau eraill o eithafiaeth sy’n seiliedig ar gredo’n codi ystyriaethau cynhennus a thra thringar, ac mae’n faes amserol sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymwybodol fod rhai eithafwyr, drwy gydol hanes dynol, wedi defnyddio dadleuon sy’n seiliedig ar gredo i gyfiawnhau trais yn erbyn pobl y maent yn anghytuno â hwy. Mae’n llai sicr a yw pobl ifanc yr un mor wybodus ynglŷn â beth sy’n symbylu ymosodiadau o’r fath, neu ynglŷn ag agwedd credinwyr prif lif. Un agwedd bwysig ar gydlyniant cymunedol yw chwalu anwybodaeth a chamsyniadau sy’n creu drwgdybiaeth a gwahanfuriau rhwng cymunedau. Mewn AG, mae pobl ifanc yn trafod ffydd, credoau a gwerthoedd ein cymunedau; ond mae codi neu ymateb i gwestiynau ynglŷn ag eithafiaeth yn gosod heriau i hyd yn oed yr athrawon mwyaf profiadol. Dyna sydd wrth wraidd yr angen am AtGyfnerthu.
Ar gyfer pwy y mae AtGyfnerthu?
Mae AtGyfnerthu ar gyfer athrawon AG (boed â chymwysterau ffurfiol fel athrawon AG ai peidio) sy’n gweithio mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru a Lloegr.
Sut mae AtGyfnerthu yn gweithio?
Mae’r rhesymau dros ddiffyg hyder wrth ymgodymu â materion cynhennus mewn gwersi AG yn amrywio o athro i athro, ac mae’r amgylchiadau’n amrywio o ysgol i ysgol. Bydd AtGyfnerthu yn gweithio gydag ysgolion unigol i adnabod anghenion a chynllunio ar gyfer eu diwallu. Mae’r ystyriaethau sy’n codi o eithafiaeth grefyddol a mathau eraill o eithafiaeth sy’n seiliedig ar gredo’n gofyn dulliau penodol o addysgu a dysgu. O ddefnyddio sgiliau meddwl a dulliau sy’n hybu cydweithredu, mae myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod ac ystyried safbwyntiau ehangach. Nod AtGyfnerthu yw helpu athrawon i feithrin dadlau, deialog, a datblygiad parch a dealltwriaeth.
Yn ystrod y project, roedd hyfforddiant ar gyfer AtGyfnerthu yn cael ei ddarparudrwy.
AtGyfnerthu yng Nghymru
Roedd y mentoriaid yn helpu 42 ysgolion ac athrawon unigol dros gyfnod o chwe wythnos, drwy gyfrwng cyfarfodydd wyneb yn wyneb, negeseuon e-bost, neu gysylltiadau dros y ffôn, yn ôl anghenion pob ysgol. Gobaith REC yw canfod ffynonellau noddiant ariannol er mwyn ymestyn y rhaglen y tu hwnt i 31 Mawrth 2011.
Ymhle y gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect, ac i gofrestru ar ei gyfer, talwch ymweliad â’r wefan swyddogol AtGyfnerthu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y deunyddiau plîs, cysylltwch â ni.
Adroddiadau AtGyfnerthu
Adroddiad Cyngor AG
Crynodeb o Safbwynt Cymru
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.