Ar 10 Hydref 2013, cynhaliodd Cymdeithas CYSAGau Cymru gynhadledd genedlaethol, a oedd yn rhoi sylw i’r blaenoriaethau cenedlaethol sy’n effeithio ar Addysg Grefyddol yng Nghymru. Mynychodd dros 114 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru y gynhadledd a’r digwyddiad hyfforddi yn Nhy Dysgu, Nantgarw, gyda’r cynrychiolwyr yn dod o ysgolion cynradd ac uwchradd, Llywodraeth Leol a chymunedau crefyddol.
Cyflwynodd a thrafododd Mark Campion (Prif Arolygydd Addysg Grefyddol, Estyn) y prif ganfyddiadau o Adolygiad Thematig Estyn o Addysg Grefyddol. Bu Richard Roberts (CfBT) yn siarad am weithredu a chefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yng Nghymru.
Yn dilyn y prif siaradwyr, cynigiwyd amrywiaeth o weithdai a oedd yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol ac yn helpu CYSAGau yn eu cyfrifoldeb statudol i gefnogi a monitro Addysg Grefyddol mewn ysgolion. Bu’r gweithdai’n ymdrin â’r canlynol:
Ar hyn o bryd, mae’r adnoddau canlynol o’r Gynhadledd ar gael.
I’w Lawrlwytho:
Gwybodaeth am y Gynhadledd
Rhaglen
Gweithdai
Lluniau 1
Lluniau 2
Adnoddau’r Gynhadledd
Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer Addysg Grefyddol (Mark Campion, Estyn)
Dogfen Adolygiad Thematig Estyn
Cyflwyniad PowerPoint
Sut y gall CYSAGau fonitro safonau? (Bethan James)
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.