Yn ddiweddar cynhaliodd CCYSAGauC arolwg ‘Bagloriaeth Newydd Cymru ac AG’ a lenwyd gan 17 o’r 22 CYSAG yng Nghymru.
Nod yr arolwg oedd galluogi CCYSAGauC i fapio sut mae ysgolion wedi llwyddo i roi’r cymhwyster newydd ar waith yn eu lleoliad unigol, ac a yw Bagloriaeth Cymru wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar addysg grefyddol mewn ysgolion ledled Cymru, drwy gasglu a rhannu gwybodaeth, profiadau, ac ymarfer.