Cysylltwch â ni
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.
Gwahoddir athrawon ledled Cymru i gymryd rhan yn Arolwg Llais yr Athrawon ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM).
Mae’r arolwg hwn wedi’l gynllunio i gael mynediad uniongyrchol at brofiadau athrawon o’r newidiadau cwricwlwm yng Nghymru a'u hymgysylltiad â nhw, gyda ffocws ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Nod yr astudiaeth yw rhoi ‘ciplun’; o safbwyntiau athrawon ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu i gyfrannu at ddeialog broffesiynol a lywir gan ymchwil a dysgu proffesiynol.
Pwy all gymryd rhan yn yr arolwg?
Mae’r arolwg yn agored i ymarferwyr sy’n addysgu yng Nghymru o fewn cyd-destun ysgol neu leoliad 3 i 16 oed. Mae hyn yn cynnwys athrawon yn yr ysgolion a’r lleoliadau canlynol: Meithrin, Cynradd, Uwchradd, Ysgolion Pob Oed, Arbennig, ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Pwy sy’n gyfrifol am yr arolwg?
Gyda chefnogaeth Cymdeithas CYSAGau / CYSau Cymru, mae’r astudiaeth gydweithredol hon wedi’l dyfeisio a’i chynnal gan ymchwilwyr o Ganolfan San Silyn Wrecsam, Prifysgol yr Esgob Grosseteste, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cymorth Addysg Castell-nedd Port Talbot, ac Ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd.
Sut ydych chi’n cymryd rhan yn yr arolwg?
Efallai eich bod wedi cael gwybodaeth am yr arolwg gan eich ymgynghorydd lleol, CYSAG / CYS lleol, awdurdod lleol, consortiwm, neu esgobaeth. Os nad ydych wedi clywed am yr arolwg eto, ac yr hoffech wybod mwy, e-bostiwch WASACRE@outlook.com. Anfonir rhagor o wybodaeth atoch am y prosiect a sut i gymryd rha
Rydym yn hapus i ateb eich ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar CYSAGauC.